Diweddariad Gwaith Oed-Gyfeillgar Ynys Môn

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio tuag at sicrhau aelodaeth I Rwydwaith Byd Eang Cymunedau Oed-Gyfeillgar. Ers sawl blwyddyn mae’r Ynys wedi cynnal Cyngor a Fforwm Pobl Hŷn sydd wedi bod yn gyfle i gydweithio i oresgyn unrhyw heriau sydd yn wynebu pobl ar yr Ynys. Yn ystod y cyfnodau clo, roedd y cyfarfodydd yn digwydd ar lein, ond erbyn hyn rydym wedi symud i gyfarfodydd hybrid. Teimlodd y Cyngor Pobl Hŷn fod hyn yn gam cadarnhaol, ac yn adeiladu ar y buddsoddiad sylweddol sydd wedi ei wneud i adnoddau technoleg o fewn hybiau cymunedol yr Ynys.

Rydym yn falch o gyhoeddi fod Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Llinos Medi, wedi cefnogi cais y Cyngor Pobl Hŷn i newid teitl ein Pencampwr I fod yn Bencampwr Oed-Gyfeillgar. Bydd y Pencampwr, y Cynghorydd Gwilym Jones yn cydweithio gyda staff y Cyngor a nifer o bartneriaid i geisio hyrwyddo ein gweledigaeth o Ynys Oed-Gyfeillgar.

Mae gwefan CYMUNED yn Neuadd Bentref Rhithiol ar gyfer Ynys Môn, ble mae cyfleoedd i bobl ymgymryd mewn gweithgareddau, neu dderbyn gwybodaeth ar-lein. Mae’r wefan yn adnodd defnyddiol i gyfrannu tuag at y gwaith lleihau unigrwydd. Rydym yn darparu cynllun tabledi digidol drwy ein partneriaid yn Age Cymru Gwynedd a Môn, a Medrwn Môn, er mwyn cefnogi pobl i gysylltu ar-lein, a dysgu sgiliau technoleg newydd.

Trwy gydweithio gyda Menter Iaith Môn, rydym wedi cyflawni gwaith pontio’r cenedlaethau, sydd wedi rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddysgu mwy am ei ardaloedd. Mae’r cynllun Ein Hanes Ni, yn creu cyfleoedd i bobl o bob oedran gysylltu gyda’i gilydd, a thrafod gorffennol, presennol a dyfodol eu hardaloedd lleol.

Bydd nifer o staff y Cyngor yn gwneud cwrs Cyfeillion Dementia yn ystod mis Gorffennaf. Mae’r cwrs yn cael ei gynnal gan Alzheimers Cymru, ac rydym yn credu bod hi’n amserol iawn i gyflwyno’r cwrs yn dilyn cyfnodau digynsail y pandemic. Mae codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia yn hanfodol, ac mi fyddwn yn ymestyn yr hyfforddiant I’n cymunedau. 

Chris Thomas, Anglesey Older Peoples Council

Scroll to Top
Skip to content