‘Inside–Outside’ yw’r enw rydyn ni wedi’i roi ar ein prosiect realiti rhithwir. Fe wnaethon ni lunio cynllun i helpu’r rhai nad ydyn nhw’n gallu gadael eu hamgylchedd i fwynhau “teithiau cerdded rhithwir” drwy erddi, traethau, neu olygfeydd gwledig. Bydd preswylwyr mewn cartrefi gofal, yn arbennig, yn gallu ymweld ag amrywiaeth eang o leoliadau diddorol yn rhithwir. Byddai’r rhain yn cynnwys safleoedd eiconig, fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (Sir Gaerfyrddin) ac Amgueddfa Werin Cymru (Sain Ffagan), mannau lleol a fydd, o bosibl, yn dod ag atgofion yn ôl, neu unrhyw le o ddiddordeb cyffredinol.
Felly, ar y cyd ag Ysgol Lewis Pengam, fe aethon ni ati i wneud cais am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a llwyddo i sicrhau grant o bron i £9,000. Bydd y cyllid yn ein galluogi ni i brynu’r offer angenrheidiol – camera, pensetiau a chyfrifiadur. Byddai gwirfoddolwyr, gan gynnwys disgyblion ysgol ac aelodau o’r grŵp Dros 50 Caerffili, yn mynd i gartrefi gofal, cartrefi nyrsio a grwpiau ar gyfer pobl hŷn i helpu gyda hyn. Mae’r cwmni lleol newydd, PlayFrame, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl waith datblygu a darparu hyfforddiant.
Llongyfarchodd yr Aelod o’r Senedd ar gyfer Caerffili, Hefin David, y staff yn Ysgol Lewis Pengam a’r grŵp Dros 50 Caerffili am eu gwaith caled i sicrhau’r cyllid. Meddai: “Mae’r £8,800 ar gyfer y prosiect realiti rhithwir wedi’i sicrhau o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig coronafeirws. Rwy’n siŵr y bydd y profiad yn dod â llawenydd i breswylwyr mewn cartrefi gofal sydd mewn mwy o berygl o deimlo’n ynysig na chyn cyflwyno’r cyfyngiadau symud.”
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Ddechrau mis Awst, fe gychwynnodd y prosiect realiti rhithwir o ddifrif pan aeth yr aelod o’r Pwyllgor, Mike Oliver, a Tom Burmeister o PlayFrame i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn y Gorllewin. Fe gawson nhw eu gwahodd yno gan David Hardy, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu yr Ardd Fotaneg. Fe aeth ein ‘tîm’ ar daith dan arweiniad David, a oedd mor garedig â rhoi o’i amser prysur iawn i sicrhau bod pob agwedd ar yr ardd ar gael i’w ffilmio.
Perfformiad teyrnged i Elvis
Byddwn ni hefyd yn ‘mynd’ â’n cynulleidfa i’r lleoliadau lle rydyn ni’n ffilmio digwyddiadau difyr. Pa le gwell i ddechrau na chamu’n ôl i’r gorffennol a mwynhau teyrnged i Elvis?
Roedden ni’n hynod ddiolchgar i CJ Horton – sy’n adnabyddus am ei deyrngedau i Elvis – a oedd mor frwdfrydig wrth gytuno i gynnal perfformiad arbennig ar gyfer ein prosiect ‘Inside–Outside’. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mor garedig â’n gadael ni i ddefnyddio Tŷ Penallta, y tu allan i oriau swyddfa, fel lleoliad.
Cartref Gofal Trafalgar Park, Nelson
Byddai’r holl ymdrechion hyn wedi mynd i’r gwellt heb gydweithrediad y cartrefi gofal. Felly, roedd yn hanfodol bwysig dod o hyd i gartref gofal a oedd yn barod i helpu o ran rhoi cynnig ar y system. Mae Cartref Gofal Trafalgar Park wedi bod yn wych drwy gymryd rhan yn ein cynllun peilot. Diolch yn arbennig i Haley Vega Zabala – sydd i’w gweld yma yn helpu Sandra Purnell, un o’r preswylwyr, wrth iddi wisgo’r penset a gwylio ein ffilmiau cychwynnol.
Rhagor o gymorth
Yn ddiweddar, rydyn ni hefyd wedi cael rhagor o gymorth ariannol gan y Gronfa Argyfwng i’r Sector Gwirfoddol – Comic Relief – drwy Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent.