January 2021

What are COPA doing?                                                                                                [Cymraeg]

The next few months will be another busy and important period for COPA. We will be holding our Annual General Meeting on 21 January which will for the first time be held virtually. Apart from the usual business for AGMs including approving our Annual Report and Accounts, we will be looking to ratify important changes to our Constitution.

Another important issue for COPA will be responding to the Welsh Government consultation: “Age Friendly Wales: Our Strategy for an Ageing Society”. This is an important document to shape policies that COPA believes are vital for older people now and over the next decade. The consultation also asks important questions about how older people should be engaged including through 50+ Forums. We want to hear as many views as possible from Forums. As an individual you can reply directly online or download a response form: Consultation Response

As well as collaborating with the Commissioner and others on creating Age-Friendly Communities in Wales and stopping abuse of older people, we will also be continuing to take action to improve how COPA operates as a Registered Charity – our strategic direction, recruitment of new trustees, the structure of our Board and essentially how we work in partnership with 50+ Forums and Groups around Wales

Despite the difficult circumstances now, COPA will continue its work as a national charity run by older people for older people. As one of our Trustees has recently said ” The past year has highlighted that need, with Age Cymru and the Commissioner for Older people leading the way at the Welsh national level. I like to think that we (in COPA) are all pieces of a jigsaw puzzle, providing a different but necessary part of the picture”

Beth mae COPA yn ei wneud?

Bydd y misoedd nesaf yn gyfnod prysur a phwysig arall i COPA. Byddwn yn cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn rhithiol am y tro cyntaf ar 21 Ionawr. Ar wahân i’r busnes arferol ar gyfer Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol gan gynnwys cymeradwyo ein Hadroddiad Blynyddol a’n Cyfrifon, byddwn yn ceisio cadarnhau newidiadau pwysig i’n Cyfansoddiad.

Mater pwysig arall i COPA fydd ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: “Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio“. Mae hon yn ddogfen bwysig i lunio polisïau y mae COPA yn credu sy’n hanfodol i bobl hŷn nawr a dros y degawd nesaf. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn cwestiynau pwysig am sut y dylid ymgysylltu â phobl hŷn gan gynnwys drwy Fforymau 50+. Hoffem glywed cymaint o safbwyntiau â phosibl gan Fforymau. Fel unigolyn, gallwch ymateb ar-lein yn uniongyrchol neu lawrlwytho ffurflen ymateb: Ymateb i’r Ymgynghoriad

Yn ogystal â chydweithio â’r Comisiynydd ac eraill i greu Cymunedau Oed-Gyfeillgar yng Nghymru ac atal cam-drin pobl hŷn, byddwn hefyd yn parhau i gymryd camau i wella’r ffordd y mae COPA yn gweithredu fel Elusen Gofrestredig – ein cyfeiriad strategol, recriwtio ymddiriedolwyr newydd, strwythur ein Bwrdd a sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Fforymau a Grwpiau 50+ ledled Cymru.

Er gwaethaf yr amgylchiadau anodd ar hyn o bryd, bydd COPA yn parhau i weithio fel elusen genedlaethol sy’n cael ei rhedeg gan bobl hŷn ar gyfer pobl hŷn. Fel y dywedodd un o’n Hymddiriedolwyr yn ddiweddar, “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu’r angen hwnnw, gydag Age Cymru a’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn arwain y ffordd ar lefel genedlaethol yng Nghymru. Hoffwn feddwl ein bod ni (yn COPA) i gyd yn ddarnau o jig-so, gan ddarparu rhan wahanol, ond angenrheidiol, o’r llun”